Partneriaeth Sgiliau yn cyhoeddi blaenoriaethau cyn etholiad

Partneriaeth Sgiliau yn cyhoeddi blaenoriaethau cyn etholiad

Wrth i etholiad y Senedd 2026 agosáu, mae Partneriaeth Sgiliau Rhanbarthol Gogledd Cymru (PSRGC) wedi cyhoeddi rhestr o'i ofynion i Lywodraeth nesaf Cymru. Mae'n nodi blaenoriaethau i sicrhau bod datblygu sgiliau yn parhau i fod yn ganolog i dwf economaidd ar draws y rhanbarth.

Am fwy na degawd, mae PSRGC wedi gweithio gyda chyflogwyr, darparwyr hyfforddiant a rhanddeiliaid lleol i ddeall ac ymateb i anghenion sgiliau Gogledd Cymru. Mae gofynion y bartneriaeth ar gyfer y cyfnod wedi’r etholiad yn canolbwyntio ar ymgorffori datblygu sgiliau mewn polisi economaidd a buddsoddiad rhanbarthol, sicrhau bod llais y cyflogwyr yn siapio rhaglenni hyfforddiant, a darparu cefnogaeth hirdymor ar gyfer seilwaith sgiliau a phartneriaethau.

Mae PSRGC hefyd yn awyddus i dynnu sylw at y gefnogaeth y mae'n ei gynnig i wneuthurwyr polisi drwy ddarparu'r wybodaeth ddiweddaraf am y farchnad lafur, cysylltiadau uniongyrchol â chyflogwyr a chyngor yn seiliedig ar dystiolaeth i sicrhau bod polisïau'n adlewyrchu gwir anghenion y rhanbarth.

Dywedodd David Roberts, Cadeirydd y Bartneriaeth Sgiliau Ranbarthol: "Ein nod yw sicrhau bod datblygu sgiliau yn uchel ar agenda Llywodraeth Cymru. Sgiliau yw sylfaen economi gref a thrwy weithio gyda'n gilydd, gallwn sicrhau bod pobl yng Ngogledd Cymru yn gallu cael mynediad at gyfleoedd sy'n iawn iddyn nhw i allu datblygu a llwyddo. Rydyn ni eisiau gweld atebion tymor hir sydd o fudd i gyflogwyr, cymunedau ac unigolion ar draws y rhanbarth."

Wrth edrych ymlaen, dywed y Bartneriaeth y bydd cydweithio yn ganolog i fynd i'r afael ag anghenion sgiliau Gogledd Cymru. Mae'n credu y bydd cysylltiadau agosach rhwng polisi a gofynion y gweithlu yn hanfodol i greu rhanbarth sy’n barod at heriau economaidd i’r dyfodol.

Mae rhagor o wybodaeth am PSRGC a'i ofynion cyn etholiad y Senedd 2026 ar gael ar eu gwefan.

https://www.partneriaethsgiliaugogledd.cymru/SharedFiles/Download.aspx?pageid=30&mid=43&fileid=252

Diwedd

Llun: David Roberts, Cadeirydd Partneriaeth Sgiliau Rhanbarthol Gogledd Cymru

Am ragor o wybodaeth:

Llinos Iorwerth – 07970 997124/ llinos@atebcymru.wales