Pobl Ifanc

Pecyn Cymorth i Bobl Ifanc

Os ydych mewn addysg neu’n adnabod rhywun mewn addysg sydd yn agosau at wneud penderfyniadau am eu dyfodol, mae’n bwysig deall yn llawn pa opsiynau sydd ar gael. Rydyn ni wedi casglu amrywiaeth o adnoddau y gall pobl ifanc, rhieni, athrawon, cynghorwyr gyrfaoedd a llawer mwy eu defnyddio i helpu i ysbrydoli a hysbysu pobl ifanc i ddilyn y llwybr sydd fwyaf addas iddyn nhw!

 

Gwneud y Mwyaf o’ch Potensial

Cyflwyniad i ddeall y dirwedd eang o opsiynau sydd ar gael i gymryd y camau nesaf yn eich dyfodol.

 

Llwybr i’ch Dyfodol

Eisiau dysgu mwy am eich opsiynau? Darganfyddwch mwy am y gwahanol lwybrau y gallwch eu ddilyn, y sgiliau trosglwyddadwy y mae cyflogwyr yn chwilio amdanynt, yn ogystal â mewnwelediadau sector sy'n cynnig enghreifftiau o swyddi y mae galw mawr amdanynt a'u cyflogau cyfartalog. Mae llawer mwy ar gael yng Ngogledd Cymru nag y byddech wedi ei ddychmygu!

 

Cipolwg Fewn i Sectorau Gogledd Cymru

Dewch i adnabod y sectorau allweddol yng Ngogledd Cymru! Gwnaethom siarad â naw unigolyn sy'n dilyn gyrfaoedd llwyddiannus yn eu sectorau priodol ar hyn o bryd. Clywch gan bobl ifanc eraill am eu profiadau yn y sector, gan esbonio’r tri sgil mwyaf sydd eu hangen arnoch i wneud eu rolau, y llwybrau y maent wedi’u dilyn i gyrraedd lle y maent heddiw, a pham y gwnaethant ddewis dychwelyd neu aros yng Ngogledd Cymru i weithio.

 

Cipolwg gan Pobl Ifanc

Dal heb eich argyhoeddi bod Gogledd Cymru yn lle gwych i gymryd y camau nesaf yn eich dyfodol? Mae’r astudiaethau achos yma yn cynnig mewnwelediad ehangach i’r sectorau yng Ngogledd Cymru, gan dangos amrywiaeth o wahanol lwybrau i’w dilyn a hefyd dangos ei bod yn iawn newid eich meddwl. Cofiwch, nid oes rhaid i benderfyniadau a wnewch nawr bennu gweddill eich bywyd.

Erioed wedi meddwl am yrfa mewn ynni carbon isel? Ynni niwclear, morol neu wynt, mae'r posibiliadau'n ddiddiwedd. Mae gan Ogledd Cymru lawer o gyfleoedd i dalent ifanc fel y chdi! Edrychwch ar y fideos yma am ysbrydoliaeth a'r holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch i roi hwb i'ch taith tuag at yrfa yn y sector ynni carbon isel!