services

Gweithgor Darparwyr Dysgu Seiliedig ar WaithGweithgor Darparwyr Dysgu Seiliedig ar Waith - Dod â darparwyr dysgu seiliedig ar waith o bob rhan o’r rhanbarth at ei gilydd i ddatblygu atebion ar y cyd i gwrdd â heriau darpariaeth a materion sy’n codi. Mae'n canolbwyntio ar gyfeiriad strategol y ddarpariaeth dysgu yn seiliedig ar waith presennol ac yn y dyfodol a'i gyflwyniad yn y rhanbarth yng nghyd-destun blaenoriaethau sgiliau Llywodraeth Cymru a'r farchnad lafur.

Gweithgor CyflogadwyeddGweithgor Cyflogadwyedd - Drwyddi draw, mae'r grŵp yn chwarae rhan hanfodol wrth lywio'r ymdrechion i wella'r deilliannau cyflogadwyedd drwy feithrin cydweithio, rhannu gwybodaeth ac eiriolaeth. Hefyd, mae'n gweithredu fel llwyfan i rannu gwybodaeth, gwaith ymchwil ac arferion gorau sy'n ymwneud â chyflogadwyedd.

Is-grŵp Clwstwr Cyflogwyr AdeiladuIs-grŵp Clwstwr Cyflogwyr Adeiladu - Y nodau penodol yw cefnogi cyflogwyr i gael llais clir i sicrhau bod anghenion cyflogwyr yn gallu siapio'r ddarpariaeth a'r llwybrau cynnydd ar gyfer datblygu sgiliau, addysg a hyfforddiant mewn swyddi adeiladu. Mae'r grŵp hefyd yn ceisio cael rhagor o amrywiaeth yn y rhai sy'n dod i mewn i'r sector, a chynyddu nifer y merched yn y byd adeiladu.

Is-grŵp Clwstwr Cyflogwyr Sgiliau DigidolRhwydwaith Sgiliau Digidol - Mae'n dod â chyflogwyr o bob maint at ei gilydd o bob sector, o ledled y rhanbarth i rannu eu heriau, cyfleoedd ac arferion gorau. Mae'n rhan o'r rhwydwaith ehangach sy'n gysylltiedig â'r Dwsin Digidol, grŵp llai o gyflogwyr sy'n dod at ei gilydd i osod y blaenoriaethau a'r camau gweithredu ar gyfer y rhwydwaith.

Is-grŵp Clwstwr Cyflogwyr Sector GyhoeddusIs-grŵp Clwstwr Cyflogwyr Sector Gyhoeddus - Mae'r grŵp yn dod â chyflogwyr sector cyhoeddus o'r rhanbarth at ei gilydd i gefnogi galw cyflogwyr am dwf drwy sgiliau lefel uwch ac i gyflwyno negeseuon allweddol i hysbysu a dylanwadu ar ein darparwyr rhanbarthol i ymateb â darpariaeth briodol.