Mae Partneriaeth Sgiliau Rhanbarthol Gogledd Cymru (y Bartneriaeth) yn un o dri chorff strategol ledled Cymru a sefydlwyd yn 2012 fel rhan o ddull gweithredu ehangach Llywodraeth Cymru i ddatblygiad economaidd rhanbarthol". Mae pob Partneriaeth yn cynghori Llywodraeth Cymru ar ddarpariaeth sgiliau, adnabod blaenoriaethau rhanbarthol ar gyfer buddsoddi mewn sgiliau yn seiliedig ar alw gan gyflogwyr a gwybodaeth am y farchnad lafur.

PSR - Cefndir

 

services

Ein Ffocws

Mae Partneriaeth Sgiliau Rhanbarthol Gogledd Cymru yn dod â chyflogwyr, darparwyr sgiliau a rhanddeiliaid lleol allweddol ynghyd i fynegi’r galw am sgiliau a’r heriau yn well ar lefel ranbarthol a lleol. Mae'r bartneriaeth yn gweithio i nodi anghenion sgiliau rhanbarthol ar hyn o bryd ac yn y dyfodol, ac yn defnyddio'r wybodaeth hon i sicrhau bod y ddarpariaeth fwyaf addas a pherthnasol ar gael ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol!

Mae’r PSRh yn rhan o ddull ehangach Llywodraeth Cymru o ddatblygu economaidd rhanbarthol, gan gynnwys yr ymrwymiad yn y Cynllun Gweithredu Economaidd i gryfhau cynllunio strategol rhanbarthol. Mae PSRh Gogledd Cymru hefyd yn cefnogi Cynllun Twf Gogledd Cymru trwy weithio gyda phartneriaid prosiect i gwmpasu a deall gofynion sgiliau buddsoddiad y Cynllun Twf. Unwaith y bydd y sgiliau yma wedi'u nodi, mae'r wybodaeth yn cael ei chasglu a'i ddefnyddio i lobïo darparwyr a Llywodraeth Cymru am newidiadau yn y ddarpariaeth.

Ein Cynllun Sgiliau a Chyflogadwyedd Rhanbarthol

Yn 2019, gofynnodd Llywodraeth Cymru i’r Bartneriaeth gymryd golwg mwy strategol, hirdymor o’r system sgiliau yn y rhanbarth drwy gynhyrchu Cynllun Sgiliau a Chyflogaeth Rhanbarthol tair blynedd ar gyfer 2019- 2022. Nod y cynllun yw cael system sgiliau Gogledd Cymru yn gweithio’n galetach ac yn fwy blaengar i gwrdd â swyddi, nawr ac yn y dyfodol. Lansiwyd a chyhoeddwyd cynllun Partneriaeth Gogledd Cymru ym mis Tachwedd 2019, yn dilyn ymgynghoriad eang â chyflogwyr a rhan-ddeiliaid.

Blaenoriaeth 1: Adeiladu gweithlu’r dyfodol a denu doniau
Blaenoriaeth 2: Datblygu sgiliau er mwyn creu Gogledd Cymru cynhwysol
Blaenoriaeth 3: Hyrwyddo canfyddiad am yrfaoedd, llwybrau gyrfaoedd a chyfleodd prentisiaethau

Grymuso Cymunedau Amrywiol i Ennill Cyflogaeth

Ydych chi erioed wedi ystyried gweithio yn y sector cyhoeddus?

Mae’r sector cyhoeddus yn cynnwys unrhyw swydd a ariennir yn gyhoeddus gan lywodraeth leol neu genedlaethol. Mae’r sefydliadau sy’n rhan o’r sector cyhoeddus yn rhai o’r cyflogwyr mwyaf ar draws Gogledd Cymru, yn cynnig ystod eang o swyddi yn cynnwys swyddi mewn addysg, y gwasanaethau brys, yr amgylchedd, gofal iechyd, tai a gofal cymdeithasol.

Pa gefnogaeth ydych chi ei hangen i wneud cais am waith yn y sector cyhoeddus?

A fyddech cystal â threulio ychydig funudau’n cwblhau’r arolwg Gogledd Cymru yma, sydd wedi ei ddatblygu gan Timau Cydlyniant Cymunedol Gogledd Cymru, a’n helpu ni i ddysgu sut y gallwn wneud pob sefydliad sector cyhoeddus yn groesawgar ac yn gynhwysol i bawb.

Dilynwch y ddolen isod i gwblhau’r arolwg:

Empowering Diverse Communities into Employment (snapsurveys.com)

 

cydraddoldeb@conwy.gov.uk

Y Bwrdd

Mae cwmpas a dylanwad strategol yr BSRh yn adlewyrchu ei rôl gynyddol bwysig wrth fynegi'r galw am sgiliau ar lefel ranbarthol a lleol. Mae dylanwad y Cynllun Cyflogaeth a Sgiliau Rhanbarthol diweddar wedi'i ymestyn i lywio nifer o feysydd polisi a amlygwyd ym mlaenoriaethau Cynllun Gweithredu'r BSRh. Er mwyn cyflawni nodau'r Cynllun Gweithredu, mae Gweithgorau ffurfiol wedi'u sefydlu i adrodd ar y cynnydd i'r Bwrdd BSRh yn rheolaidd. Mae'r Gweithgorau yn arwain a chydlynu amcanion gweithredoly Blaenoriaethau yn y Cynllun Gweithredu. Hyd yma, mae’r BSRh wedi sefydlu’n ffurfiol Gweithgor Cyflogadwyedd, dan gadeiryddiaeth Niall Waller, Gweithgor Darparwr Dysgu Seiliedig ar Waith, dan gadeiryddiaeth Paul Bevan, Grŵp Clwstwr Cyflogwyr Sgiliau Digidol dan gadeiryddiaeth Pryderi Ap Rhisiart a Grŵp Clwstwr Cyflogwyr y Sector Gyhoeddus dan gadeiryddiaeth Heather Johnson. Mae Cylch Gorchwyl a Chofnodion y grwpiau hyn hefyd ar gael.

 

David Roberts

Cadeirydd Partneriaeth Sgiliau Rhanbarthol Gogledd Cymru

 

Niall Waller

Cadeirydd Grŵp Cyflogadwyedd Gogledd Cymru

 

Paul Bevan

Cadeirydd Gweithgor Darparwr Dysgu Seiliedig ar Waith

 

Alison Hourihane

Cadeirydd Grŵp Clwstwr Cyflogwyr Adeiladu

 

Heather Johnson

Cadeirydd Grŵp Clwstwr Cyflogwyr Sector Gyhoeddus

 

Pryderi Ap Rhisiart

Cadeirydd Grŵp Clwstwr Cyflogwyr Sgiliau Digidol 

Catrin Perry

Gofal Cymdeithasol, Bwrdd Gweithlu Gofal Gogledd Cymru

 

Claire Webb

Gweithgynhyrchu, ConvaTec

 

Ifer Gwyn

Sector Egni - Minesto

 

Paul Spencer

Prifysgol Bangor

 

Scott Davis

Gweithgynhyrchu Delta Rock Group & Ethikos Group Ltd

Our Sub-groups

 

services

Gweithgor Darparwyr Dysgu Seiliedig ar WaithGweithgor Darparwyr Dysgu Seiliedig ar Waith - dod â darparwyr dysgu seiliedig ar waith o bob rhan o’r rhanbarth at ei gilydd i ddatblygu atebion ar y cyd i gwrdd â heriau darpariaeth a materion sy’n codi

Gweithgor CyflogadwyeddGweithgor Cyflogadwyedd - yn dod â darparwyr rhaglenni cyflogadwyedd sy’n gweithio ar draws y rhanbarth at ei gilydd i sicrhau dull cyd-gysylltiedig yn ogystal â rhannu arfer gorau

Is-grŵp Clwstwr Cyflogwyr AdeiladuIs-grŵp Clwstwr Cyflogwyr Adeiladu - Nod yr is-grŵp yw datblygu dull cydweithredol, cydgysylltiedig ac wedi’i dargedu o ymdrin â heriau sgiliau adeiladu fel bod gan y rhanbarth weledigaeth glir a set o flaenoriaethau.

Is-grŵp Clwstwr Cyflogwyr Sgiliau DigidolIs-grŵp Clwstwr Cyflogwyr Sgiliau Digidol - Nod yr is-grŵp yw datblygu dull cydweithredol, cydgysylltiedig ac wedi’i dargedu o ymdrin â heriau sgiliau digidol fel bod gan y rhanbarth weledigaeth glir a set o flaenoriaethau.

Is-grŵp Clwstwr Cyflogwyr Sector GyhoeddusIs-grŵp Clwstwr Cyflogwyr Sector Gyhoeddus - Nod yr is-grŵp yw datblygu dull cydweithredol, cydgysylltiedig ac wedi’i dargedu o ymdrin â heriau sgiliau y sector gyhoeddus fel bod gan y rhanbarth weledigaeth glir a set o flaenoriaethau.

 
EIN GWELEDIGAETH... Creu system sgiliau gynhwysol, eangfrydig sy'n hyblyg, yn wydn ac yn medru addasu i gyfleoedd a heriau sy'n ymddangos o'n tueddiadau

Y TÎM

 

COFNODION A CHYLCH GORCHWYL

Enw'r ffeil Maint(KB)
Folder 0
Folder 0
Folder 1081
Folder 534
4 gwrthrych(s)
 

ADNODDAU DEFNYDDIOLL

Enw'r ffeil Maint(KB)
Folder 18721
Folder 9856
Folder 2690
Folder 1776
Folder 2610
5 gwrthrych(s)
 
CYNLLUNIAU CYFLOGAETH A SGILIAU RHANBARTHOL A'R TEMPLED CYNLLUNIO AC ARIANNU AR HYN O BRYD YW'R PRIF FECANWAITH I'R RSPS LYWIO DULL STRATEGOL LLYWODRAETH CYMRU O DDARPARU CYFLOGAETH A DARPARIAETH SGILIAU

Llywodraeth Cymru

ARSYLLFA DATA PARTNERIAETH SGILIAU RHANBARTHOL GOGLEDD CYMRU

Dewch o hyd i ystod o wybodaeth gadarn a diweddar am yr isod:

Ein cynlluniau

 

Cysylltu â ni

 

Dolennau Defnyddiol

© 2023 Data Cymru - Mewngofnodi
Welsh Gov