Mae busnesau Gogledd Cymru yn cael eu hannog i gymryd rhan mewn arolwg newydd gan y Bartneriaeth Sgiliau Rhanbarthol er mwyn gallu creu darlun manwl o anghenion sgiliau'r rhanbarth.
Mae Partneriaeth Sgiliau Rhanbarthol Gogledd Cymru (PSRGC) yn gweithio gyda chyflogwyr a phartneriaid i ddeall yr heriau a'r cyfleoedd sy'n wynebu'r gweithlu lleol. Bydd yr adborth sy’n cael ei gasglu yn dylanwadu ar y Cynllun Sgiliau a Chyflogaeth Gogledd Cymru sy’n cael ei ddatblygu ar gyfer 2026 i 2028.
Nod y Bartneriaeth yw sicrhau bod darpariaeth sgiliau yn y gogledd yn adlewyrchu gwir anghenion sefydliadau, gan helpu i baratoi'r gweithlu ar gyfer galw a chyfleoedd i’r dyfodol. Mae gwahoddiad i gyflogwyr i rannu eu profiadau o brinder sgiliau, problemau recriwtio a datblygu'r gweithlu, yn ogystal â'u barn ar unrhyw heriau newydd sy'n dod i'r amlwg.
Dywedodd David Roberts, Cadeirydd Partneriaeth Sgiliau Rhanbarthol Gogledd Cymru: “Gall y rhanbarth ffynnu os yw’n cyflogwyr a'n busnesau'n llwyddo. Drwy gymryd ychydig funudau i gwblhau'r arolwg yma, bydd busnesau a sefydliadau'r sector cyhoeddus yn ein helpu ni i adeiladu darlun cliriach o'r heriau y maen nhw’n eu hwynebu a'r cyfleoedd sydd o'u blaenau. Bydd pob ymateb yn cyfrannu at greu gweithlu yng Ngogledd Cymru sy’n gryfach, sydd â’r sgiliau iawn ac sy’n barod am y dyfodol.”
“Nid dim ond cyfle i gwmnïau mawr ydi hwn – rydym am glywed gan fusnesau bach a chanolig lleol hefyd. Mae cwblhau’r arolwg yn rhoi cyfle i fusnesau o bob maint ddylanwadu ar ein cynllunio ar gyfer y dyfodol. Mae cael y adborth yma mor bwysig wrth i ni lunio darpariaeth addysg a hyfforddiant, adnabod blaenoriaethau a sicrhau bod ein strategaeth yn seiliedig ar brofiad go iawn.”
Gall cyflogwyr gael mynediad at yr arolwg yma: https://www.surveymonkey.com/r/Q2LN8LY. Mae’r arolwg ar agor tan 12:00pm ddydd Mawrth y 10fe o Fawrth.
Diwedd
Am ragor o wybodaeth: Llinos Iorwerth – 07970 997124 | llinos@atebcymru.wales
Llun: David Roberts, Cadeirydd Partneriaeth Sgiliau Rhanbarthol Gogledd Cymru