Newyddion

Posts From Mai, 2024

Denu a datblygu talent ar frig agenda cynhadledd i gyflogwyr

An event to help North Wales employers develop their workforce

Daeth busnesau o bob rhan o’r gogledd at ei gilydd yn Venue Cymru, Llandudno'r wythnos diwethaf i rannu profiadau a chlywed gan arbenigwyr ar faterion yn gysylltiedig â'r gweithlu – o  bontio’r bwlch sgiliau i reoli gweithwyr Gen Z.

Mewn cynhadledd wedi ei threfnu gan Bartneriaeth Sgiliau Rhanbarthol Gogledd Cymru (PSR), daeth dros 150 o gynrychiolwyr busnes, gan gynnwys llawer o enwau amlwg y rhanbarth, at ei gilydd i ddysgu a thrafod. Craig Weeks Cyfarwyddwr JCB, Wrecsam oedd y prif siaradwr, cymerodd y cyfle i rannu ei stori bersonol a’i safbwynt o ar ddatblygu sgiliau. Cafodd mynychwyr hefyd glywed gan banel o arbenigwyr oedd yn rhoi eu barn ac yn cynnig atebion i rai o’r prif heriau sy'n gysylltiedig â denu a chadw talent.

Wrth agor y gynhadledd, pwysleisiodd David Roberts, cadeirydd y PSR arwyddocâd y digwyddiad fel llwyfan pwysig i gyflogwyr fynd i'r afael â’r materion maen nhw’n eu wynebu wrth reoli gweithwyr. Gan edrych yn ôl ar y diwrnod, mae’n awyddus i annog cyflogwyr i rannu’r cyfrifoldeb o ran addasu ac arloesi er mwyn sicrhau gweithlu gyda sgiliau addas ar gyfer y dyfodol.

Dywedodd David: "Elfen bwysig o greu cynllun sgiliau a chyflogadwyedd y rhanbarth oedd ymgynghori gydag arweinwyr cwmnïau i ddeall yr heriau maen nhw’n eu hwynebu.

"Gyda recriwtio a chadw talent yn holl bwysig, rydym yn gobeithio bod y gynhadledd wedi helpu busnesau bach a chanolig i gysylltu â sefydliadau addysg a hyfforddiant, nid yn unig i sicrhau eu twf eu hunain ond i hybu gwytnwch a ffyniant yn y rhanbarth.

"Roedd y diwrnod yn llawn cyfleoedd i gael cyngor hefyd. Ac o'r adborth rydym eisoes wedi'i dderbyn, mae'r cyflogwyr oedd yn bresennol yn teimlo'n fwy hyderus wrth fynd i chwilio am gefnogaeth addas."

Ychwanegodd Sian Lloyd Roberts, Rheolwr Sgiliau Rhanbarthol: "Roedd yn wych croesawu sefydliadau o gymaint o sectorau gwahanol i'r gynhadledd – roedd yn gyfle i ni edrych ar yr hyn sy’n gyffredin rhwng busnesau a sut y gallwn weithio efo’n gilydd i fynd i'r afael â rhai o'r heriau sydd o’n blaenau ni gyd.

"Rydym yn gwybod bod denu a chadw talent yn anodd, felly roedden ni’n awyddus i ddod â phawb at ei gilydd i drafod yr atebion i rai o'r materion yma."

Yn ogystal â chlywed gan David Roberts a Craig Weeks, roedd siaradwyr y yn cynnwys Alwen Williams, Cyfarwyddwr Portffolio Uchelgais Gogledd Cymru; Mike Learmond o’r FSB; a Nia Bennet, Cadeirydd Urdd Gobaith Cymru. Cynhaliwyd gweithdai arbenigol gan Dafydd Bowen, Cyfarwyddwr Gweithrediadau Menter a Busnes, a Lesley Griffiths Pennaeth CIPD Cymru.

Roedd rhai o bartneriaid PSR wedi cymryd rhan yn y gynhadledd hefyd gyda stondinau ac arddangosfa i roi cyfle i  sefydliadau a busnesau drafod anghenion sgiliau yn uniongyrchol gyda’r arbenigwyr.