Newyddion

Denu a datblygu talent ar frig agenda cynhadledd i gyflogwyr

Daeth busnesau o bob rhan o’r gogledd at ei gilydd yn Venue Cymru, Llandudno'r wythnos diwethaf i rannu profiadau a chlywed gan arbenigwyr ar faterion yn gysylltiedig â'r gweithlu – o  bontio’r bwlch sgiliau i reoli gweithwyr Gen Z.

Mewn cynhadledd wedi ei threfnu gan Bartneriaeth Sgiliau Rhanbarthol Gogledd Cymru (PSR), daeth dros 150 o gynrychiolwyr busnes, gan gynnwys llawer o enwau amlwg y rhanbarth, at ei gilydd i ddysgu a thrafod. Craig Weeks Cyfarwyddwr JCB, Wrecsam oedd y prif siaradwr, cymerodd y cyfle i rannu ei stori bersonol a’i safbwynt o ar ddatblygu sgiliau. Cafodd mynychwyr hefyd glywed gan banel o arbenigwyr oedd yn rhoi eu barn ac yn cynnig atebion i rai o’r prif heriau sy'n gysylltiedig â denu a chadw talent.

Wrth agor y gynhadledd, pwysleisiodd David Roberts, cadeirydd y PSR arwyddocâd y digwyddiad fel llwyfan pwysig i gyflogwyr fynd i'r afael â’r materion maen nhw’n eu wynebu wrth reoli gweithwyr. Gan edrych yn ôl ar y diwrnod, mae’n awyddus i annog cyflogwyr i rannu’r cyfrifoldeb o ran addasu ac arloesi er mwyn sicrhau gweithlu gyda sgiliau addas ar gyfer y dyfodol.

Dywedodd David: "Elfen bwysig o greu cynllun sgiliau a chyflogadwyedd y rhanbarth oedd ymgynghori gydag arweinwyr cwmnïau i ddeall yr heriau maen nhw’n eu hwynebu.

"Gyda recriwtio a chadw talent yn holl bwysig, rydym yn gobeithio bod y gynhadledd wedi helpu busnesau bach a chanolig i gysylltu â sefydliadau addysg a hyfforddiant, nid yn unig i sicrhau eu twf eu hunain ond i hybu gwytnwch a ffyniant yn y rhanbarth.

"Roedd y diwrnod yn llawn cyfleoedd i gael cyngor hefyd. Ac o'r adborth rydym eisoes wedi'i dderbyn, mae'r cyflogwyr oedd yn bresennol yn teimlo'n fwy hyderus wrth fynd i chwilio am gefnogaeth addas."

Ychwanegodd Sian Lloyd Roberts, Rheolwr Sgiliau Rhanbarthol: "Roedd yn wych croesawu sefydliadau o gymaint o sectorau gwahanol i'r gynhadledd – roedd yn gyfle i ni edrych ar yr hyn sy’n gyffredin rhwng busnesau a sut y gallwn weithio efo’n gilydd i fynd i'r afael â rhai o'r heriau sydd o’n blaenau ni gyd.

"Rydym yn gwybod bod denu a chadw talent yn anodd, felly roedden ni’n awyddus i ddod â phawb at ei gilydd i drafod yr atebion i rai o'r materion yma."

Yn ogystal â chlywed gan David Roberts a Craig Weeks, roedd siaradwyr y yn cynnwys Alwen Williams, Cyfarwyddwr Portffolio Uchelgais Gogledd Cymru; Mike Learmond o’r FSB; a Nia Bennet, Cadeirydd Urdd Gobaith Cymru. Cynhaliwyd gweithdai arbenigol gan Dafydd Bowen, Cyfarwyddwr Gweithrediadau Menter a Busnes, a Lesley Griffiths Pennaeth CIPD Cymru.

Roedd rhai o bartneriaid PSR wedi cymryd rhan yn y gynhadledd hefyd gyda stondinau ac arddangosfa i roi cyfle i  sefydliadau a busnesau drafod anghenion sgiliau yn uniongyrchol gyda’r arbenigwyr.

Digwyddiad Gogledd Cymru i helpu busnesau 'ddarganfod, datblygu a chadw' eu gweithlu

Digwyddiad i gefnogi busnesau Gogledd Cymru i ddatblygu eu gweithle

Mae denu, datblygu a chadw talent yn dal i fod yn un o'r prif heriau sy'n wynebu busnesau Gogledd Cymru, yn ôl ymchwil diweddar gan Bartneriaeth Sgiliau Rhanbarthol Gogledd Cymru (PSR). I ymateb i hyn, mae digwyddiad wedi'i gyhoeddi i ganiatáu i fusnesau, arweinwyr diwydiant a gweithwyr proffesiynol gael cyfle i ddarganfod atebion i oresgyn rhai o'r materion yma.

Yn y digwyddiad, gaiff ei gynnal yn Venue Cymru, Llandudno ar y 26ain o Ebrill, bydd busnesau'n clywed gan arbenigwyr am reoli eu gweithlu, ac yn cael rhannu profiadau a gwersi gwerthfawr ar ddod yn gyflogwr o ddewis.  Prif siaradwr y dydd fydd Craig Weeks, Cyfarwyddwr Gweithredu JCB yn Wrecsam.

Ers i Craig ymuno â'r cwmni, mae JCB wedi tyfu ac erbyn hyn mae gan y busnes dros 22 o ffatrïoedd ledled y byd, mwy na 750 o fasnachwyr a 11,000 o weithwyr. Wrth edrych ymlaen at y digwyddiad, dywedodd Craig: "Rwy'n gwybod mai'r gweithlu yw'r ased mwyaf gwerthfawr sydd gan unrhyw fusnes, ac rwy'n deall pwysigrwydd datblygu tîm effeithiol a'r heriau sy'n dod yn sgil hynny. Dechreuais weithio i JCB 29 mlynedd yn ôl yn y gweithdy – rydw i wedi gweithio fy ffordd i fyny ac wedi dysgu llawer ar hyd y ffordd. Rwy'n edrych ymlaen at  rannu fy stori gyda chydweithwyr o Ogledd Cymru, a gobeithio y gall yr hyn fydd gen i ddweud helpu a hyd yn oed ysbrydoli eraill."

Yn ogystal â chlywed gan Craig, mae siaradwyr y digwyddiad yn cynnwys Alwen Williams, Cyfarwyddwr Portffolio o Uchelgais Gogledd Cymru a David Roberts, Cadeirydd Partneriaeth Sgiliau Rhanbarthol Gogledd Cymru.

Roedd David yn arweinydd Adnoddau Dynol yn flaenorol ac yn gyfrifol am oruchwylio twf sefydliad i 950 o staff ar draws 25 lleoliad. Mae bellach yn rhedeg ‘The Alternative Board’ yng Ngogledd Cymru, ac yn cefnogi arweinwyr busnesau bach a chanolig i gyflawni eu targedau. Ychwanegodd: "Rwy'n falch iawn bod y PSR yn cynnal y digwyddiad hwn i gyflogwyr. Wedi gweithio ym maes adnoddau dynol, a rŵan yn cefnogi busnesau bach a chanolig mewn swyddogaeth ymgynghorol, mae gen i brofiad o heriau recriwtio a chadw gweithwyr.

"Bydd hwn yn gyfle gwych i fusnesau gyfarfod a dysgu gan ei gilydd.  Ar draws sawl sector, rydyn ni i gyd yn wynebu materion tebyg - bydd digwyddiad fel hwn yn rhoi llwyfan i ni drafod yr atebion ac arferion gorau."

Bydd trafodaeth banel gyda chynrychiolwyr o'r gymuned fusnes leol a Federation of Small Businesses yn cael ei chynnal, a bydd gweithdai mwy penodol yn rhoi cyfle i gynrychiolwyr fynd yn ddyfnach i rai o'r prif faterion a chael cyngor arbenigol.

Mae'r digwyddiad, a gynhelir gan Bartneriaeth Sgiliau Rhanbarthol Gogledd Cymru, yn agored i fusnesau o bob maint ac o unrhyw ddiwydiant sydd eisiau cymorth gyda recriwtio, cadw a datblygu gweithwyr. Gyda niferoedd yn gyfyngedig, mae’r RSP yn annog busnesau sydd â diddordeb mewn mynychu i archebu eu lle trwy’r ddolen yma.

Bydd cyfle hefyd i rwydweithio yno a bydd arddangosfa ‘cwrdd â’r arbenigwyr’ gyda sefydliadau sy’n cefnogi cyflogwyr gyda heriau eu gweithlu.

DIWEDD

Dolen i gofrestru: Taclo Heriau Gweithlu a Sgiliau | Navigating Workforce and Skill Challenges Tickets, Fri 26 Apr 2024 at 09:00 | Eventbrite