Ydych chi erioed wedi ystyried gweithio yn y sector cyhoeddus?
Mae’r sector cyhoeddus yn cynnwys unrhyw swydd a ariennir yn gyhoeddus gan lywodraeth leol neu genedlaethol. Mae’r sefydliadau sy’n rhan o’r sector cyhoeddus yn rhai o’r cyflogwyr mwyaf ar draws Gogledd Cymru, yn cynnig ystod eang o swyddi yn cynnwys swyddi mewn addysg, y gwasanaethau brys, yr amgylchedd, gofal iechyd, tai a gofal cymdeithasol.
Pa gefnogaeth ydych chi ei hangen i wneud cais am waith yn y sector cyhoeddus?
A fyddech cystal â threulio ychydig funudau’n cwblhau’r arolwg Gogledd Cymru yma, sydd wedi ei ddatblygu gan Timau Cydlyniant Cymunedol Gogledd Cymru, a’n helpu ni i ddysgu sut y gallwn wneud pob sefydliad sector cyhoeddus yn groesawgar ac yn gynhwysol i bawb.
Dilynwch y ddolen isod i gwblhau’r arolwg:
Empowering Diverse Communities into Employment (snapsurveys.com)
cydraddoldeb@conwy.gov.uk